Bod yn chi eich hun
Bod yn rymus
Bod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru
Graddedig Cyllid
Math o gontract: Rhaglen wedi'i diffinio sy’n para tair neu bedair blynedd (wedi’i theilwra i’r cymhwyster proffesiynol o’ch dewis), rhwng 34 a 46 mis o gontract cyfnod penodol
Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion
P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, mae ein cynllun i raddedigion yn gyfle i gyflymu eich gyrfa.
Beth fyddai fy nghyfrifoldebau?
Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a darparu gwasanaethau trafnidiaeth gynaliadwy, gan weithio fel rhan o dîm i sicrhau’r gwerth gorau am arian, gan ddarparu gwybodaeth i hybu effeithlonrwydd a chynhyrchiant busnes, cynyddu refeniw a diogelu adnoddau TrC.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
Sgiliau Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y camau nesaf
Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i ddysgu mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs.
Cyfle cyfartal
Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a’r rheini o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol o gael gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.
Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, rhowch wybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.