Swydd:
Gweinyddwr Ffermio Bro
Lleoliad:
Penrhyndeudraeth
Cyflog:
£24,790 - £25,992 y flwyddyn (DOE)
Cyfeirnod:
ENPA 2025 018
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri/Eryri National Park Authority
Dyddiad Cau:
20-05-2025

Gweinyddwr Ffermio Bro
Penrhyndeudraeth (ar gyfer Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn)

Amdanom Ni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (ENPA) yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ymestyn dros 823 milltir sgwâr, mae’r parc yn gartref i fynydd uchaf Cymru, llyn naturiol mwyaf Cymru, a thros 26,000 o bobl.

Mae Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig yn rhaglen newydd i gefnogi diogelu tirweddau mewn amgylcheddau unigryw a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni. Mae ein Tirweddau Dynodedig yn lleoedd arbennig ac unigryw ac mae angen eu rheoli, eu gwella a’u gwarchod.

Rydym nawr yn chwilio am Weinyddwr Ffermio Bro i ymuno â ni yn llawn amser, gan weithio 37 awr yr wythnos. Cynigir y rôl hon ar gontract cyfnod penodol tan 2028.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Darllenwch y disgrifiad swydd ar gyfer yr union lefel sydd ei hangen ar gyfer y swydd hon.

Y Manteision

- Cyflog o £24,790 - £25,992 y flwyddyn (DOE)
- Rhaglen cymorth i weithwyr a mynediad at swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl
- Cyfleoedd dysgu a datblygu
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Trefniadau gwaith hybrid

Y Rôl

Fel Gweinyddwr Ffermio Bro, byddwch yn cefnogi cyflwyno prosesau ariannol a gweinyddol o fewn rhaglen Ffermio Bro.

Yn benodol, byddwch yn cefnogi gweinyddu rhaglenni ac yn goruchwylio rheolaeth ariannol prosiectau lluosog a ariennir, gan fonitro gwariant yn erbyn y gyllideb, a sicrhau bod gweithdrefnau ariannol yn cael eu rhoi ar waith yn gywir.

Y tu hwnt i hyn, byddwch hefyd yn cefnogi Panel Asesu Lleol Eryri ar Cylch Ffermio Bro trwy drefnu cyfarfodydd, paratoi dogfennaeth, cymryd cofnodion, a helpu i lunio adroddiadau.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Defnyddio GIS (Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol)
- Prosesu cytundebau grant, hawliadau a thaliadau
- Darparu gwybodaeth ariannol i gefnogi adrodd

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried fel Gweinyddwr Ffermio Bro, bydd angen:

- Profiad o weithio gyda systemau ac arferion gweinyddol mewn lleoliad awdurdod lleol
- Profiad o gefnogi cyflwyno prosiectau a rhaglenni cadwraeth
- Cymhwysedd i drefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion cywir a chyfrinachol
- Sgiliau TG rhagorol, yn enwedig mewn pecynnau meddalwedd fel Excel a Word
- Y gallu i weithio i derfynau amser caeth a rheoli adnoddau
- O leiaf, cymhwyster Lefel 3 (Safon Uwch) neu brofiad cyfatebol
- Trwydded yrru lawn, ddilys
- Parodrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol yn achlysurol

Byddai unrhyw brofiad gyda GIS o fudd i'ch cais.

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 20 Mai 2025.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Weinyddwr Rhaglen, Gweinyddwr Prosiect Cadwraeth, Swyddog Cefnogi Prosiect, Gweinyddwr Grantiau, neu Gydlynydd Rhaglen.

Felly, os ydych chi eisiau bod yn Weinyddwr Ffermio Bro, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.