Swydd:
Intern
Lleoliad:
Pontypool
Cyflog:
£23,286
Cyfeirnod:
7963
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Gwent Police
Dyddiad Cau:
01-05-2025

Disgrifiad Swydd - Intern - Fforenseg Ddigidol

Os ydych yn fyfyriwr prifysgol, yn disgwyl 2:1 neu uwch mewn Fforenseg Ddigidol, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn interniaeth gyda ni.

Cyfnod yr interniaeth fydd 12 mis ac mae'n gyfle gwych i gael cipolwg ar fywyd a gwaith mewn Uned Fforenseg Ddigidol weithredol. Byddwn yn rhoi aseiniadau heriol i chi, ynghyd â'r holl gymorth y bydd ei angen arnoch i fanteisio i'r eithaf ar y profiad.

Intern Fforenseg Ddigidol

Mae'r Interniaeth hwn yn gyfle i ennill profiad uniongyrchol mewn amrywiaeth o dasgau a phrosiectau mewn amgylchedd seiberdrosedd deinamig. Nid yn unig bydd yr intern yn mireinio ei sgiliau ymarferol, bydd hefyd yn ennill dealltwriaeth o sut mae archwilio technoleg ddigidol yn fforensig yn gallu helpu i atal ac adnabod gweithgarwch troseddol.

Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr mewn gwaith fforenseg ddigidol ac ymchwilio i drosedd. Nod fforenseg ddigidol yw archwilio cyfryngau digidol gyda'r nod o adnabod, cadw, adfer, dadansoddi a chyflwyno ffeithiau am yr wybodaeth ddigidol. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyddysg mewn gwaith cyfrifiadur, gyda phrofiad o raglenni cyfrifiadur fforensig (megis AXIOM Access Data a XRY ac ati.).


Bydd y gwaith yn cynnwys

  • Dysgu am yr adran seiberdrosedd.
  • Derbyn a chofnodi arddangosion a dilyn canllawiau ar sut i drin a thrafod arddangosion.
  • Delweddu gyriannau cyfrifiadur.
  • Casglu tystiolaeth fforensig yn defnyddio dulliau arbenigol.
  • Ymchwilio a dadansoddi data sy’n cael eu casglu.
  • Bod yn bresennol pan fydd gwarantau chwilio'n cael eu gweithredu.
  • Paratoi arddangosion ar gyfer archwiliad fforensig digidol gan gynnwys datgymalu a thynnu storfeydd digidol.
  • Caffael cynnwys storfeydd digidol yn defnyddio meddalwedd berchnogol.

Gofynion

  • Diddordeb mawr mewn fforenseg ddigidol, technoleg ddigidol ac ymchwilio i drosedd.
  • Gwybodaeth fanwl am bensaernïaeth a systemau gweithredu cyfrifiaduron.
  • Y gallu i dalu sylw manwl i gywirdeb.
  • Dulliau ymchwilio datblygedig.
  • Y gallu i fod yn drefnus, hunanysgogol ac i weithio'n annibynnol. 
  • Gwaith ffigyrau a thaenlenni manwl-gywir a sgiliau TG cadarn.
  • Rhaid derbyn sesiynau cwnsela oddi wrth Adran Lles yr Heddlu ar ddechrau a diwedd y cyfnod.
  • Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael ei fetio gan Heddlu Gwent.

Sylwer: Mae'r interniaeth hwn yn dechrau ym mis Awst 2023. I fod yn gymwys ar gyfer yr interniaeth, rhaid i ymgeiswyr fod yn astudio ar gyfer gradd israddedig ac yn chwilio am leoliad 'rhyngosod'. Nid yw'r interniaeth hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.

 

Sylwer:

  • Rhaid derbyn sesiynau cwnsela oddi wrth Adran Lles yr Heddlu ar ddechrau a diwedd y cyfnod
  • Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael ei fetio gan Heddlu Gwent

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â:

bethan.jenkins2@gwent.police.uk

 

 

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.

 

Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.

 

Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.

 

YMGEISWYR MEWNOL: Sylwer na allwn symud eich cais ymlaen at y cam rhestr fer nes y byddwn wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth Rheolwr Llinell. Cyflwynwch y ffurflen hon erbyn y dyddiad cau. Diolch.

 

Hefyd SWYDDOGION MEWNOL, byddwch yn ymwybodol bod angen i chi fod wedi cwblhau eich cyfnod prawf cyn y gallwch ymgeisio am swyddi eraill.

 

Sylwer – mae’n rhaid i Ringylliaid fod wedi cwblhau 12 mis yn eu swydd cyn y gallant ymgeisio am swyddi eraill oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

 

Mae Heddlu Gwent yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall (gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig nad ydynt yn amlwg). Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sy’n arddel hunaniaeth LGBT+ ac anabl. Mae Heddlu Gwent yn cynnal rhaglen gweithredu cadarnhaol i roi cymorth i grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli digon. I ddysgu mwy, anfonwch e-bost at Brian, Clare a Rima - positive.action@gwent.police.uk neu ewch i dudalen gweithredu cadarnhaol ein gwefan.

 

Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl â sgiliau Cymraeg.