Swydd:
Dirprwy Olygydd Newyddion Digidol S4C
Lleoliad:
Caerfyrddin
Cyflog:
Yn unol â phrofiad
Cyfeirnod:
S4CDOND
Math o Swydd:
Dros Dro
Cleient:
S4C

Dirprwy Olygydd Newyddion Digidol S4C

 

Mae S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau.

Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.

Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o’r gyfraith yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â’r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.

Mae sgiliau ieithyddol cryf yn bwysig i’r rôl i allu sicrhau safon a chywirdeb, yn ogystal â gosod tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Os oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad i helpu ni i adeiladu gwasanaeth newydd byddem yn hoffi clywed gennych.

 

Manylion eraill

 

Lleoliad:        Lleoliad arferol y swydd yw Canolfan S4C Yr Egin.

Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes.

Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu.  Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith

Cytundeb:      24 mis

Oriau gwaith: 35 ¾ yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf: 6 mis