Noder: Mae hwn yn swydd rhan-amser yn gweithio 17.5 awr yr wythnos gan gynnwys penwythnosau.
Wythnos 1 – Dydd Iau, Dydd Gwener, Dydd Sadwrn 08:20–15:00
Wythnos 2 – Dydd Llun, Dydd Mawrth 08:20–15:00
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r Swydd
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid fel Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Fel Ymgynghorydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, byddwch chi’n ceisio darparu dull cadarnhaol a chyfeillgar o ymdrin â’n prif gyfrifoldebau o ddelio â phobl wyneb yn wyneb yn ein gorsafoedd. Mae’n bosibl y byddwch chi’n treulio eich diwrnodau yn unrhyw un o’r tri maes pwysig canlynol:
- Cynorthwyo cwsmeriaid i brynu eu tocynnau yn ein swyddfeydd archebu prysur;
- Gwirio tocynnau cwsmeriaid wrth iddynt fynd drwy’r gatiau tocynnau;
- Neu’n gweithio ar y platfformau, yn gyfrifol am sicrhau fod y trenau’n gadael yn ddiogel!
Bydd eich swydd yn amrywio, a bydd angen i chi allu meddwl ar eich traed wrth helpu teithwyr mewn awyrgylch prysur. Rhaid bod yn frwd dros wasanaethau i gwsmeriaid. Mae gan ein timau gorsafoedd y cyfrifoldeb a’r berchnogaeth i wneud gwahaniaeth i siwrnai pob cwsmer.
Drwy ymgysylltu â chwsmeriaid er mwyn i chi allu diwallu eu hanghenion nhw, bydd gofyn i chi wneud y canlynol: cynorthwyo cwsmeriaid ag anghenion hygyrchedd; darparu gwybodaeth a chyngor cywir er mwyn i gwsmeriaid wneud penderfyniadau gwybodus am ein gwasanaethau; a magu hyder cwsmeriaid yn ein timau a’n sefydliad.
Bydd gofyn i chi ddilyn gweithdrefnau dibynadwy er mwyn sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
- Gallu darparu gwasanaeth rheng flaen ardderchog i gwsmeriaid
- Cyfathrebwr cryf, ar lafar ac ar bapur
- Gallu gwneud penderfyniadau yn hyderus
- Gallu delio’n briodol â sefyllfaoedd anodd heb gynhyrfu
- Cyfforddus yn gweithio o fewn gweithdrefnau caeth, gan ddilyn rheolau a rheoliadau
- Gallu gweithio fel aelod o dîm neu’n annibynnol
Ymuno â'n Pwll Talent
Os byddwch yn llwyddiannus ar ôl y cyfnod cyfweld ond nad oes rôl ar gael ar unwaith, cewch eich rhoi yn ein Pwll Talent am gyfnod o 12 mis lle byddwch yn cael eich ystyried yn swydd addas.
Sgiliau Laith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y Camau Nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.