Swydd:
Graddedig Rheoli Gweithrediadau Cwsmeriaid
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£27,000
Cyfeirnod:
REC01143
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
16-03-2025

Disgrifiad swydd

Bod yn chi eich hun 

Bod yn rymus 

Bod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru 

 

Graddedig Rheoli Gweithrediadau Cwsmeriaid 

 

Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis 

 

Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion 

P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, mae ein cynllun i raddedigion yn gyfle i gyflymu eich gyrfa.  

 

Beth fyddai fy nghyfrifoldebau? 

Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni tasgau ein tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid,  

yn dangos sgiliau darparu gwasanaeth i gwsmeriaid, gan hefyd gynnal y safonau diogelwch uchel a ddisgwylir drwy ein rhwydwaith cyfan. 

 

A oes unrhyw ofynion hanfodol? 

  • Addysg ar lefel gradd mewn rheoli busnes neu debyg gyda’r gallu i baratoi adroddiadau cywir a chryno. 
  • Dealltwriaeth dda o reoli busnes yn gyffredinol. 
  • Ffocws uchel ar ragoriaeth a darpariaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid. 
  • Meddu ar Drwydded Yrru’r DU. 

Sgiliau iaith Gymraeg 

Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

 

Y camau nesaf 

Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i ddysgu mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs. 

 

Cyfle cyfartal 

Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a’r rheini o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw’r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol o gael gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a’ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.   

 

Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.  

 

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, rhowch wybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.