Swyddog Llywodraethu Corfforaethol
Parc Imperial, Casnewydd (Gweithio Hybrid)
Amdanom ni
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Swyddog Llywodraethu Corfforaethol i ymuno â’n tîm yn llawn amser, parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos. Gellir ystyried oriau rhan-amser a rhannu swydd a byddant yn cael eu trafod yn ystod y cyfweliad.
Y Manteision
- Cyflog o £32,460 - £39,690 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (a gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae hwn yn gyfle arbennig i weithiwr llywodraethu proffesiynol sydd â phrofiad o gefnogi ar lefel Bwrdd i ddatblygu eu gyrfa gyda'n sefydliad unigryw.
Y Rôl
Fel Swyddog Llywodraethu Corfforaethol, byddwch yn cefnogi'r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol gyda gwasanaeth llywodraethu corfforaethol o ansawdd uchel.
Yn benodol, byddwch yn cefnogi ein Bwrdd a Phwyllgorau gyda gwasanaethau ysgrifenyddol tra'n cynorthwyo'r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol gyda llywodraethu a chymorth busnes.
Gan chwarae rôl gefnogol hanfodol, byddwch yn helpu gydag adrodd ar berfformiad statudol a chynlluniau gweithredol, yn ogystal â chefnogi ein prosesau archwilio mewnol a rheoli risg a
cynorthwyo gyda’n cyfrifon blynyddol a’n cynllun busnes blynyddol.
Byddwch yn adolygu ein prosesau llywodraethu yn rheolaidd, gan argymell a gweithredu gwelliannau a dogfennu prosesau newydd i gefnogi cydymffurfiaeth. Yn ogystal, byddwch yn cynnal cofnodion llywodraethu ac yn diweddaru ac yn rheoli ein system SharePoint llywodraethu corfforaethol.
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Swyddog Llywodraethu Corfforaethol, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o ddarparu gwasanaethau ysgrifenyddol ar lefel C-suite neu Fwrdd mewn rôl cefnogi busnes
- Profiad perthnasol o gymryd a chynhyrchu cofnodion ffurfiol ar lefel Bwrdd, neu brofiad trosglwyddadwy
- Y gallu i ddylanwadu a thrafod
- Gwybodaeth am fframweithiau llywodraethu perthnasol yn y sector cyhoeddus
- Diddordeb mewn Llywodraethu Corfforaethol ac mewn ymgymryd â dysgu proffesiynol perthnasol
- Llythrennedd TG gyda gwybodaeth ymarferol dda o Microsoft Office
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu da
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon yw 28 Tachwedd 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Weinyddwr Corfforaethol a Llywodraethu, Cydgysylltydd Llywodraethu Corfforaethol, Cynorthwyydd Gweithredol, Cynorthwyydd Personol, EA, PA, neu Weinyddwr Llywodraethu.
Felly, os ydych chi'n barod i ddatblygu eich set sgiliau fel Swyddog Llywodraethu Corfforaethol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.