Swyddog Llywodraethu Corfforaethol
Cyngor y Gweithlu Addysg
(cyfnod mamolaeth – cyfnod penodol am 12 mis)
Gan weithio’n uniongyrchol â’r Prif Weithredwr, y Cadeirydd ac aelodau’r Cyngor, bydd y Swyddog Llywodraethu Corfforaethol yn gyfrifol am gydlynu papurau, trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd a chynnal cofnodion llywodraethu corfforaethol. Fel aelod o’r tîm Gwasanaethau Corfforaethol, bydd y Swyddog Llywodraethu Corfforaethol hefyd yn darparu cymorth gweinyddol cyffredinol dwyiethog i’r swyddfa a’r swyddogaeth adnoddau dynol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhugl yn y Gymraeg, yn medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac yn meddu ar brofiad o gymryd cofnodion. Yn ogystal, bydd yn meddu ar sgiliau trefnu, cyfathrebu a rhyngbersonol cryf.
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint) pro rata.
E-bostiwch swyddi@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu i gael pecyn cais, ewch i: https://www.ewc.wales/recriwtio