Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu (Hyrwyddo) i ymuno â’r tîm Cyfathrebu. Fel aelod o dîm byddwch yn gyfrifol am ddweud wrth y byd am raglenni, cynnwys a gwasanaethau S4C.
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon, denu gwylwyr a chynnal trafodaeth rhwng S4C a’i rhan-ddeiliaid.
Yn ogystal â meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol mae profiad o weithio’n llwyddiannus ar ymgyrchoedd hyrwyddo yn ddymunol.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu swyddfa S4C, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH.
Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes.
Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol ar ôl cyfnod prawf o 6 mis
Oriau gwaith: 35.75
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: 26 diwrnod a gwyliau banc
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 17:00 yn y prynhawn ar ddydd Mawrth 24 Tachwedd 2020 i adnoddau.dynol@s4c.cymru neu’r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.