Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rheolwr Ardal - Glanhau
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Mae hyn yn golygu y dylai pawb sy’n gymwys gael cyfle cyfartal i gael swydd a dyrchafiad ar sail ei allu, ei gymwysterau a’i addasrwydd ar gyfer y gwaith. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw ymgeisydd na gweithiwr gael ei drin yn llai ffafriol ar sail: hil; lliw; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol; oedran; statws priodasol, anabledd; crefydd; cyfrifoldebau teuluol/domestig a phatrymau gwaith, ee rhan-amser. Ni ddylid chwaith roi unrhyw unigolyn dan anfantais oherwydd amodau neu ofynion, heb gyfiawnhad dros hynny.
Rhagarweiniad
Dyma gyfle gwych i ymuno â TrC mewn cyfnod cyffrous o drawsnewid cyffrous fel Rheolwr Ardal Glanhau i fod yn bennaf gyfrifol am y Ddarpariaeth Glanhau gyda phortffolio a maes penodol. Gall y rôl fod yn gysylltiedig â phrosiectau penodol yn genedlaethol ee cerbydau aml-safle.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn atebol am y ddarpariaeth lanhau mewn rhanbarth dynodedig drwy reoli tîm mawr o bell a chynhyrchu dull gweithredu cyson a gwasanaeth sy’n cwrdd â disgwyliadau ac sy’n anelu at ragori arnynt .
Byddwch yn rhoi gwybodaeth reoli drwy gasglu data ar draws cyfrif trenau, archwiliadau a gwybodaeth gyllidebol i sicrhau bod TrC yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth lanhau.
Byddwch hefyd yn goruchwylio’r gwaith o gydlynu gweithgareddau’r timau a’r Goruchwylwyr Safle drwy gynnal archwiliadau a chadw golwg ar reoli i sicrhau yr ymwelir yn rheolaidd â phob rhan o’r contract a chynhelir lefel uchel o foddhad ymysg cwsmeriaid ar draws pob safle.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Gweithredol neu Reolwr Tîm profiadol yn y diwydiant cyfleusterau neu lanhau, sy’n gallu defnyddio eu profiad i reoli gwaith mawr mewn sawl ardal yng Ngogledd Cymru.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.