Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaethau rheoleiddiedig diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.
Prif dasg Arolygydd yw sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel, ac annog ac ysgogi gwelliant. Gall Arolygwyr ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddiogelu ac amddiffyn llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig a chasglu gwybodaeth am ganlyniadau i bobl. Gall AGC ddefnyddio hyn wrth werthuso cynghorau lleol ac i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau.
Bydd Arolygwyr yn atebol i Reolwr Tîm. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni mewn modd effeithiol ac amserol ym mhob agwedd ar Wasanaethau Gofal Rheoleiddiedig.
Ar gyfer Swydd Archwilydd De Cymru
*Gwnewch gais am y swydd hon gan ddefnyddio hysbyseb De Cymru
Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn swyddfeydd Ymchwiliad Gofal Cymru (CIW) De Cymru yn Merthyr neu Gaerfyrddin.
Bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw, a bydd ymgeiswyr yn cael eu penodi yn ôl trefn meritor. Os gwnaethoch ymgeisio ac fe gynigir swydd i chi ac ydych yn gwrthod, byddwch yn cael eich tynnu o'r rhestr wrth gefn. Bydd y rhestrau wrth gefn yn cael eu cadw am hyd at 12 mis.
Y Tîm yw:Tîm Archwilio Gwasanaethau Oedolion a Phlant – Mae'n debygol y daw'r ymgeiswyr o gefndir gwaith cymdeithasol neu nyrsio.
Ar gyfer Swydd Archwilydd Gogledd Cymru
*Gwnewch gais am y swydd hon gan ddefnyddio'r hysbyseb Gogledd Cymru
Mae'r rolau hyn wedi'u lleoli yn swyddfa Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yng Nghyffordd Llandudno.
Bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw, a bydd ymgeiswyr yn cael eu penodi yn nhrefn eu teilyngdod. Os gwnaethoch gais a'ch bod yn cael cynnig rôl ac yn gwrthod, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y rhestr wrth gefn. Caiff y rhestrau wrth gefn eu cadw am hyd at 12 mis.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at y math o wasanaeth rydych yn gwneud cais ar ei gyfer fel rhan o'ch cais (gallwch nodi'r ddau os oes gennych brofiad gofal cymdeithasol yn y ddau fath o wasanaeth).
Y Tîm yw:
Tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant – Mae ymgeiswyr yn debygol o ddod o gefndir gwaith cymdeithasol neu nyrsio. Bydd un drefn deilyngdod i wasanaethau plant ac un arall i wasanaethau oedolion.
I gael rhagor o wybodaeth am Arolygiaeth Gofal Cymru, ewch i'n gwefan.
Camau Asesu:
Bydd proses asesu dau gam.
Cam 1 – Cais
Cam 2 – Cyfweliad/Cyflwyniad (yn seiliedig ar senario)
Cam 1: Ffurflen gais, dim ond y meini prawf Profiad a Thechnegol a gaiff eu profi yn ystod y cam hwn.
Os bydd nifer uchel o geisiadau yn dod i law, caiff cam sifftio ei gynnal ar sail y meini prawf ‘Technegol’ yn unig a chaiff yr ymgeiswyr â'r marciau uchaf eu gwahodd i gyfweliad.
Cam 2: Caiff ymgeiswyr sy'n pasio cam 1 eu gwahodd i gyfweliad a chyflwyniad. Caiff yr holl ymddygiadau, profiadau a sgiliau technegol eu profi yn ystod y cam cyfweld.
Byddwch yn cael neges e-bost yn cynnwys senario ar gyfer pwnc y cyflwyniad 5 diwrnod cyn eich cyfweliad. Bydd y senario yn seiliedig ar sefyllfa y gallwch ddisgwyl bod ynddi wrth arolygu. Bydd y cyflwyniad yn asesu ymateb ymgeiswyr yn unol â gwerthoedd AGC a'r ymddygiad ‘Cyfathrebu a Dylanwadu’.
Ni fydd y cyflwyniad yn hirach na 5 munud a bydd yn cael ei amseru. Ni dderbynnir sleidiau gweledol; cyflwyniad llafar yn unig fydd y cyflwyniad hwn, ond gall ymgeiswyr ddarllen o gardiau atgoffa. Ar ôl i'r panel gyflwyno eu hunain ac i'r Cadeirydd esbonio fformat y dydd, gofynnir i'r ymgeisydd ddechrau drwy roi'r cyflwyniad 5 munud.
Gellir ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£40,341) i ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol i lefel eithriadol mewn cyfweliad. Nid ystyrir cyflog presennol.
Bydd Lwfans Recriwtio a Chadw o hyd at £4,535 y flwyddyn yn daladwy. (os ydych chi'n gweithio rhan-amser bydd hyn yn cael ei gyfrifo'n gymedrol)’ Atodir y lwfans i swydd yr Arolygydd ac mae'n ychwanegol at y cyflog parhaol.
Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os byddwch yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Bydd angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur arnoch.
Ar ôl y cam cyfweld, os bydd dau ymgeisydd llwyddiannus â'r un sgôr, bydd y panel yn adolygu sgoriau'r cyfweliad ar gyfer sgiliau technegol, yna ymddygiad 1, yna ymddygiad 2, yna ymddygiad 3, yna ymddygiad 4.
Bydd yr ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf yn dilyn y cyfweliad yn cael cynnig rôl yn nhrefn eu teilyngdod.
Fel Arolygydd, byddwch yn gweithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, rhywfaint o amser yn y lleoliad swyddfa y cytunwyd arno, a rhywfaint o amser ar safle'r gwasanaeth rydych yn ei arolygu. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i'ch man gwaith arferol dewisol.
Mae trwydded yrru ddilys lawn yn y DU yn hanfodol gan y bydd angen ymweld yn rheolaidd â safleoedd y gwasanaeth rydych yn ei arolygu fel rhan o'r rôl hon a gall dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus fod yn anodd. Byddwn yn ystyried addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn gallu gyrru o ganlyniad i anabledd.
Bydd angen gwneud rhywfaint o waith y tu allan i oriau swyddfa arferol er mwyn cwblhau arolygiadau.
Profiad a Chymwysterau Hanfodol:
Mae enghreifftiau o Gymwysterau Derbyniol yn cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):
Derbyn: Unrhyw radd a phrofiad sylweddol ym maes diogelu neu wella canlyniadau i blant ac oedolion mewn gofal cymdeithasol.