Dyma gyfle gwych i unigolyn rhagorol i ymuno â S4C ar adeg drawsnewidiol yn ei hanes.
Mae rôl y Prif Swyddog Cynnwys yn allweddol i ddatblygu strategaeth cynnwys feiddgar ac arloesol, sy’n gwasanaethu cynulleidfa eang ac yn denu siaradwyr newydd at y Gymraeg.
Yn arweinydd ysbrydoledig, gydag agwedd greadigol ynghyd â thystiolaeth amlwg o'r gallu i reoli unigolion, timau a perthynas partneriaid mewn ffordd deg a chymodol, byddwch yn berchen ar sgiliau rhyngbersonol eithriadol, yn gyfathrebwr/wraig naturiol gyda lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol a’r gallu i greu a diwallu datrysiadau arloesol.
Bydd gennych ddealltwriaeth glir o anghenion newidiol cynulleidfaoedd yn yr oes ddigidol a gweledigaeth ar gyfer comisiynu cynnwys gafaelgar ar gyfer amrywiol blatfformau S4C. Byddwch yn creu yr amgylchedd i feithrin a datblygu talent newydd yng Nghymru.
Byddwch yn craffu ar ddata i anelu yn barhaus i dyfu ac ehangu ein cynulleidfaoedd, a bydd gennych feddwl craff ac ymwybyddiaeth fasnachol fydd yn gwneud y defnydd gorau o’r ffi drwydded.
Bydd gennych brofiad sylweddol o gynhyrchu a chomisiynu cynnwys ynghyd ag hygrededd ac enw da o fewn y sector gynhyrchu a’r byd darlledu. Byddwch yn gyfathrebwr cryf fydd yn medru siarad ar ran S4C i feithrin perthnasau cryf a buddiol gyda phartneriaid.
Bydd y Prif Swyddog Cynnwys yn aelod o Dîm Arweinyddiaeth S4C a Bwrdd Unedol S4C.
Mae’r gallu i gyfathrebu ac i weithio yn effeithiol yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl.
Dylid anfon ceisiadau erbyn 10.00yb ar ddydd Llun 9 Rhagfyr 2024 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Llun 16 Rhagfyr 2024
Nid ydym yn derbyn CV.
Bydd ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.