Lleoliad: Cymru (Digwyddiad Ar-lein)
Dyddiad y Digwyddiad: 1 Mai 2025
Cyfle: Digwyddiad sy’n rhoi cipolwg ar benodi â chymorth, dychwelyd i weithio, a swyddi â chontractau tymor penodol
Cofrestrwch erbyn: 28 Ebrill 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi lansiad ei raglen gyntaf un ar gyfer pobl sy’n dychwelyd i yrfa. Ymunwch â Trafnidiaeth Cymru ar 1 Mai am fore llawn ysbrydoliaeth, cefnogaeth, casglu gwybodaeth a rhwydweithio. Bydd cyfnod ymgeisio ar gyfer y rhaglen yn agor ar ddiwrnod y digwyddiad.
Gwybodaeth am y Rhaglen
Mae Trafnidiaeth Cymru yn recriwtio ar gyfer swyddi agored nawr. Os nad yw’r rhain yn addas, gallwch ymuno â’r gronfa dalent ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Dyma’r swyddi agored:
Drwy ymuno â’r gronfa dalent, bydd y tîm recriwtio yn asesu eich cais yn erbyn cyfleoedd yn y dyfodol.
Sut byddwch chi’n elwa o’r digwyddiad?
Cymhwysedd ar gyfer y Rhaglen a’r Digwyddiad
Mae’r digwyddiad a’r rhaglen wedi’u targedu at unigolion proffesiynol sydd wedi cymryd seibiant gyrfa estynedig o 18 mis o leiaf, ac sy’n awyddus i ddychwelyd i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Rhaid i chi fod â’r hawl i weithio yn y DU.
Efallai eich bod wedi cymryd seibiant o’ch gyrfa i ofalu am blant neu berthnasau oedrannus/sâl, i adleoli, oherwydd mater iechyd personol neu am resymau eraill. Efallai eich bod wedi bod yn gweithio ychydig bach o gwmpas eich ymrwymiadau eraill, neu efallai nad ydych chi wedi gwneud gwaith am dâl ers nifer o flynyddoedd.
Gwybodaeth am Trafnidiaeth Cymru
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli gwlad i newid y ffordd y mae’n teithio, fel bod pawb ohonom yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo.
Maent yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac eisiau mwy o ferched a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried gyrfa mewn trafnidiaeth fel eu bod yn adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu’n well.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Maent yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’ch cyfnod sefydlu os byddwch yn llwyddiannus.
Sut mae Cofrestru
Cofrestrwch i ddod i’r digwyddiad drwy glicio yma ac ateb y cwestiynau cofrestru.
Anfonir cyfarwyddiadau ymuno atoch 2 ddiwrnod cyn y digwyddiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch ag alicia@careerreturners.com
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 28 Ebrill 2025.