Swydd:
Arolygwyr Arolygiaeth Gofal Cymru
Cyflog:
£35,787 i £40,341
Pwrpas y swydd
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaethau rheoleiddiedig diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.
Prif dasg Arolygydd yw sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel, ac annog ac ysgogi gwelliant. Gall Arolygwyr ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddiogelu ac amddiffyn llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig a chasglu gwybodaeth am ganlyniadau i bobl. Gall AGC ddefnyddio hyn wrth werthuso cynghorau lleol ac i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau.
Bydd Arolygwyr yn atebol i Reolwr Tîm. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni mewn modd effeithiol ac amserol ym mhob agwedd ar Wasanaethau Gofal Rheoleiddiedig.
Tasgau Allweddol
- Goruchwylio a rheoli llwyth achosion gwasanaethau rheoleiddiedig, gan sicrhau y caiff yr arolygiadau gofynnol eu cynnal, monitro lefelau risg, asesu pryderon a dderbynnir a sicrhau bod yr holl gofnodion yn gyfredol.
- Cynnal arolygiadau yn unol â rhaglen gytûn (gan gynnwys arolygiadau ar y cyd ag Estyn mewn lleoliadau gofal plant a chwarae), arsylwi ac adrodd ar lesiant pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, nodi a monitro meysydd o ddiffyg cydymffurfio, a chodi pryderon sy'n ymwneud â diogelu ac ymateb iddynt.
- Bod yn gyfrifol am gymryd a datblygu camau gweithredu mewn perthynas â gwasanaethau sy'n peri pryder, a chydgysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys comisiynwyr, cyrff rheoleiddio eraill ac arweinwyr diogelu.
- Paratoi a chwblhau gweithgarwch gorfodi gan gynnwys drafftio hysbysiadau statudol.
- Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
- Cydweithio â rheolwyr i gyfrannu at y gwaith o osod a chyflawni amcanion perfformiad sefydliadol, gan gynnwys mesurau meintiol ac ansoddol.
- Sicrhau bod y tîm yn cyfathrebu'n effeithiol er mwyn sicrhau y rhennir arferion da ac y rhoddir gwybod am feysydd sy'n achosi pryder.
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gwella ymarfer er mwyn cynnal safonau rheoliadol cadarn a chyson, lle yr ymdrinnir yn llawn â materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb ac y cânt eu hintegreiddio'n llawn.
- Bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau o ran deddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau a datblygu arferion gorau.
- Sicrhau y datblygir ffyrdd effeithiol o ymgysylltu'n barhaus â rhanddeiliaid eraill gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr.
- Paratoi gohebiaeth mewn perthynas â materion penodol a gaiff eu codi am wasanaethau.
- Sicrhau proses lle caiff cofnodion eu rheoli'n briodol, gan gynnwys defnyddio cronfa ddata CRM (CaSSI).
- Cymryd cyfrifoldeb dros reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses