Swydd:
Partner Busnes Pobl a Diwylliant
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£35,000-£40,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
20250411S4C
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
28-04-2025

Byddwch yn rhan allweddol o dîm sy'n gweithredu'n strategol ac yn ymarferol, gan ddarparu cefnogaeth Adnoddau Dynol ar draws y sefydliad yn unol â model partneru busnes: o hyfforddiant a datblygu, i absenoldeb a chyflogres, i recriwtio a pholisïau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant i greu dulliau sy'n cefnogi ein strategaeth, gan ddefnyddio data ac adborth i wella'n barhaus.

Mae hon yn rôl sy'n hynod bwysig ac yn weladwy iawn ar bob lefel. Bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y sefydliad trwy gwreiddio'n Cod Diwylliant ymhob rhan o'r gwaith ac ymddygiad gan hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.

Byddwch hefyd yn arwain ar rai meysydd penodol, gall gynnwys:

Llesiant, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Tâl a Gwobrwyo, Iechyd a Diogelwch, Systemau a Phrosesau – ymhlith eraill! Mae'r rôl hefyd yn cynnwys gweithio ar brosiectau penodol fydd yn herio ac yn datblygu'ch sgiliau ymhellach.

Manylion Eraill:

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa.

Cyflog: £35,000-£40,000 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 28 Ebrill 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais