A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Golygydd Testun Deddfwriaethol Dwyieithog / Swyddle
Swydd:
Golygydd Testun Deddfwriaethol Dwyieithog
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£37,111 to £45,378
Cyfeirnod:
Cyf 3311
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Dyddiad Cau:
19-12-2025

Pwrpas y swydd - Darparu gwasanaeth golygu ieithyddol proffesiynol i'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol wrth sicrhau ansawdd y gwaith o lunio is-ddeddfwriaeth ddwyieithog sy'n gyfwerth yn ieithyddol ac yn gywir.
 
Mae Adran Gwasanaethau Cyfreithiol (GC) Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddrafftio'n ddwyieithog yr holl is-ddeddfwriaeth gyffredinol a wneir gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog yn gweithredu ar ei ben ei hun neu lle bo'n briodol y Cwnsler Cyffredinol, yn ogystal â dogfennau deddfwriaethol dwyieithog eraill.
 
Mae nifer y darnau o is-ddeddfwriaeth ddwyieithog a wneir gan Weinidogion Cymru yn gofyn am wasanaeth golygu testun cyfreithiol pwrpasol, wedi'i leoli o fewn Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru, i hwyluso cymhwyso yn gywir ac yn gyson ganllawiau drafftio Llywodraeth Cymru a'r derminoleg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth ddrafft ddwyieithog a lunnir gan y cyfreithwyr pwnc perthnasol. Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd arbenigo yn y gwaith o sicrhau cywerthedd testunau Cymraeg a Saesneg is-ddeddfwriaeth ddwyieithog yn unol â'r galw, gan gydweithio'n agos â'r Uwch Olygydd Testun Deddfwriaethol Dwyieithog, cyfreithwyr drafftio a thîm arbenigol Llywodraeth Cymru o gyfieithwyr deddfwriaethol.


Caiff pob testun deddfwriaethol dwyieithog ei wirio a'i olygu'n drylwyr er mwyn sicrhau cywirdeb ieithyddol a chyfwerthedd cyfreithiol rhwng y ddwy fersiwn iaith.

 

Tasgau Allweddol - Gan adrodd i'r Uwch Olygydd Testun Deddfwriaethol Dwyieithog, ac yn broffesiynol i gyfreithwyr Llywodraeth Cymru, y tasgau allweddol sy'n ofynnol ar gyfer y swydd yw:

  • Cynllunio, blaenoriaethu a chyflawni gwaith golygu o fewn yr amserlenni sydd ar gael, negodi terfynau amser neu ddiwygiadau dilynol yn ôl yr angen;
  • Cynnal craffu cymharol, diwygio a chywiro testunau deddfwriaethol Cymraeg a Saesneg mewn perthynas â drafftiau dwyieithog terfynol o Offerynnau Statudol cyffredinol Cymru, deddfwriaeth leol ac is-ddeddfwriaeth arall ac ystod o ddogfennau deddfwriaethol dwyieithog amrywiol;
  • Ystyried cyngor a adroddir neu a gyhoeddir gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd ar derminoleg Gymraeg, cysondeb dwyieithog a chyfwerthedd mewn deddfwriaeth a chyfrannu cyngor at ymatebion swyddogol Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor hwnnw;
  • Craffu ar ddiwygiadau ychwanegol gan gyfreithwyr i destunau deddfwriaethol yn ôl yr angen a chynghori ar ddiwygiadau o fewn amserlenni penodedig ar gyfer eu gwneud neu eu gosod mewn drafft;
  • Cyfrannu cyngor ieithyddol fel y bo'n ofynnol i gyfreithwyr Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, gan gynnwys staff Swyddfa'r Codau Deddfwriaethol;
  • Cynorthwyo yn ôl yr angen i ddarparu hyfforddiant ym maes is-ddeddfwriaeth i gyfreithwyr a gweinyddwyr sy'n ymuno â’r sefydliad neu sydd wedi hen sefydlu, i esbonio rôl a phwysigrwydd cyfwerthedd dwyieithog a'r prosesau sydd ar waith i'w sicrhau;
  • Cysylltu â Phrif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru, cyfreithwyr drafftio a chyfieithwyr deddfwriaethol arbenigol pan allai fod angen cywiriadau technegol, pan allai fod angen terminoleg amgen neu newydd, a/neu pan allai fod angen diwygio'r testun Cymraeg neu Saesneg er mwyn sicrhau cyfwerthedd cyfreithiol;
  • Cysylltu pan fo’n briodol ar faterion drafftio a therminoleg â Chynghorwyr Cyfreithiol Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd;
  • Cynorthwyo cyfreithwyr drafftio, yn ôl yr angen, i wirio’n brydlon yr holl OSau cadarnhaol drafft dwyieithog sy'n cael eu diwygio ar ôl cael eu tynnu'n ôl gan Weinidogion Cymru;
  • Cyfrannu’r wybodaeth sydd ei hangen i gronfeydd data gwybodaeth Swyddfa'r Codau Deddfwriaethol at ddibenion cynhyrchu adroddiadau ystadegol cyfredol a hanesyddol mewn perthynas â deddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru.

 

Cyfleoedd i Ddatblygu - Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw i chi o sut mae deddfwriaeth ddwyieithog yn cael ei llunio a'i gwneud yng Nghymru a'r prosesau cysylltiedig. Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i weithio o fewn amgylchedd cyfreithiol proffesiynol sydd wrth galon llywodraeth ddatganoledig, ar flaen y gad yn y broses polisi a deddfu ac ar flaen y gad o ran datblygiadau cyfansoddiadol mawr.