Swyddog Maes Ardal Wledig
Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?
Bydd y swyddog yn gyfrifol am arwain gwaith maes Menter Iaith Conwy yn ardal wledig y Sir.
Amcan y gwaith yw creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio efo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal o fewn y diriogaeth.
Oriau: O leiaf 22.5 awr yr wythnos( i’w drafod efo’r ymgeisydd llwyddiannus)
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst
Cais drwy lythyr a CV - manylion pellach miconwy.cymru
Mae'r Fenter yn hysbysebu dwy swydd ar Swyddle.cymru - Gwahoddir ceisiadau am y ddwy swydd naill ai ar wahân, neu am y ddwy gyda’i gilydd os yw ymgeisydd yn credu fod ganddynt y gallu a phrofiad perthnasol