A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

/ Swyddle
Swydd:
Swyddog Ymholiadau Arfau Tanio
Lleoliad:
Cwmbran
Cyflog:
£29,109 - £31,296
Cyfeirnod:
8725
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Gwent Police
Dyddiad Cau:
27-11-2025

Trosolwg o'r Rôl

Mae’r Adran Trwyddedu Arfau Tanio yn chwilio am Swyddog Ymholiadau Arfau Tanio (FEO) newydd i ymuno â'n tîm am 12 mis.

Mae Trwyddedu Arfau Tanio yn gyfrifol am oddeutu 6,500 o ddeiliaid tystysgrifau yng Ngwent, 27 o Ddelwyr Arfau Tanio Cofrestredig a 10 clwb saethu.  O ganlyniad, byddwch yn delio â llawer o bobl ledled Gwent a bydd disgwyl i chi gael eich hyfforddi i drin gynnau yn ddiogel. Mae hon yn swydd ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gallu rheoli risg.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Prif Arolygydd Hannah Lawton- hannah.lawton@gwent.police.uk

SUT I WNEUD CAIS

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi’r sgiliau a'r angerdd ar gyfer y rôl hon, cliciwch ar y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n meddwl mai dyma'r rôl i chi, cwblhewch gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cyflawniadau gofynnol (fel arfer ar dudalen olaf proffil y rôl, gellir dod o hyd i'r cyfrif geiriau ar gyfer pob maes hefyd ar y ddogfen hon).

Sylwch fod teitlau'r meysydd y mae'n ofynnol i chi roi tystiolaeth ar eu cyfer (yn unol â manyleb y person) wedi'u llenwi ymlaen llaw ar y ffurflen gais. Cyfeiriwch at fanyleb y person i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y dystiolaeth sy'n ofynnol o dan bob pennawd. Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr sydd ynghlwm isod sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i gwblhau eich cais. 

YMGEISWYR MEWNOL: Sylwch na allwn eich symud ymlaen i'r rhestr fer oni bai ein bod wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth gan Reolwr Llinell. Cyflwynwch hon yn unol â'r dyddiad cau. Diolch.

Beth yw ein buddion:

Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn darparu digon o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich rôl, ochr yn ochr â derbyn buddion fel:

  • Hawl gwyliau blynyddol hael sy'n codi i naill ai 29 neu 30 o ddiwrnodau yn dibynnu ar y radd ynghyd ag 8 gŵyl banc
  • Rhaglen Cymorth i Gyflogeion ac ystod o raglenni cymorth lles
  • Mynediad am ddim i gampfeydd ar y safle
  • Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas a Cherdyn Vectis
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Gweithio hybrid/ystwyth (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg
  • Cynllun pensiwn llywodraeth leol
  • Ystod o rwydweithiau cymorth
  • Hawliau absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael
  • Darpariaethau tâl salwch hael
  • Opsiwn i ddod yn aelod o UNISON, undeb y gwasanaeth cyhoeddus

 

Amrywiaeth a'r Gymraeg

Er mwyn ein galluogi i ddarparu plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir, gydag ystod o brofiadau proffesiynol a bywyd, fel ein bod yn wirioneddol gynrychioliadol o'n cymunedau.

Mae Heddlu Gwent yn darparu rhaglen gymorth gweithredu cadarnhaol ar gyfer grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. I gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at Brian, Salma a Clare drwy positive.action@gwent.police.uk neu ewch i'n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent.

Rydym yn falch o fod yn wasanaeth plismona Cymraeg ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a'u talent. Gallwch nodi ar eich ffurflen gais a oes gennych unrhyw anghenion  o ran cymorth neu addasiadau i'ch galluogi i wneud y gwaith, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais.