Rydym yn chwilio am berson brwd ac egnïol i ymuno â’r tîm yma yn y Fenter i’n cynorthwyo i gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau hwyliog er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.
Cyflog: £19,680 + cyfraniad pensiwn cyfatebol hyd at 6%.
Swydd am gyfnod o flwyddyn i gychwyn gyda’r bwriad o barhad yn ddibynnol ar gyllid digonol. Oriau: 37 awr yr wythnos (ond croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd) Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd â phatrymau gwaith hyblyg.