Teitl y Swydd: Cydlynydd Gweithgareddau Chwaraeon
Math o gontract: Swydd 12 mis (yn ddibynnol ar gyllid allanol), llawn amser (35 awr yr wythnos)
Gradda: Gweithredol 2 - £21,239 - £22,058
Lleoliad: Caerdydd a’r Fro
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar ddiwedd blwyddyn ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Gary Lewis Cyfarwyddwr adran Chwaraeon ar gary@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 07/03/2023
Dyddiad Cyfweld – 13/03/2023