A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Noddwr / Swyddle
Swydd:
Uwch Noddwr
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£60,000 - £70,000
Cyfeirnod:
REC01432
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
02-11-2025

Disgrifiad Swydd

Uwch Noddwr 

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd yr Uwch Noddwr Prosiectau yn ymgysylltu â chleientiaid a thimau gweithredu er mwyn rhoi cynlluniau gwella cymhleth ar waith yn llwyddiannus ar ran Trafnidiaeth Cymru (TrC).

  • Noddi'r gwaith o ddatblygu rhaglenni trafnidiaeth cymhleth a’u rhoi ar waith drwy weithredu fel pwynt cyswllt i’r cleientiaid allanol a'r tîm cyflawni prosiectau, gan ddarparu dealltwriaeth, cyngor ac argymhellion i sicrhau bod TrC yn diwallu anghenion ei gleientiaid ac yn tarfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr a chymunedau lleol.

 

  • Bod yn gyfrifol am Achosion Busnes y rhaglenni a’r prosiectau, ac am ddal y tîm cyflawni prosiectau i gyfrif yn erbyn y cynigion a’r rhwymedigaethau diogelwch y cytunwyd arnynt (gan gynnwys y dull diogelwch cyffredin). Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod cynlluniau gwella’r rheilffyrdd yn bodloni gweithrediad diogel ac effeithiol y gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer Cymru a’r Gororau, a bod buddion yn cael eu gwireddu ar ôl cwblhau'r gwaith.

 

  • Hwyluso’r defnydd o’r Dull Diogelwch Cyffredin drwy oruchwylio cydymffurfiad y tîm cyflawni prosiectau â’r safonau hyn, er mwyn sicrhau bod TrC yn parhau i gyflawni prosiectau’n ddiogel, gan gadw at ofynion amser, costau a sicrhau ansawdd.

 

  • Cynnal eglurder ynghylch sefyllfa ariannol cynlluniau trafnidiaeth cymhleth drwy ymgysylltu â chleientiaid ac arianwyr, yn ogystal â gweithio’n agos gyda thimau cyflawni prosiectau i nodi newidiadau posibl i amodau’r gyllideb er mwyn bodloni gofynion o ran amser, costau ac ansawdd.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad blaenorol o reoli prosiectau gyda dealltwriaeth o gylch bywyd prosiectau.
  • Profiad o reoli rhanddeiliaid yn effeithiol, lle bo agweddau rhanddeiliaid yn gwrthdaro.
  • Profiad o arwain a rheoli cynlluniau buddsoddi cymhleth.
  • Profiad o baratoi a rheoli cyllidebau mawr.
  • Profiad o weithio ar draws prosiectau ac adnabod materion rhyng-gysylltiedig â phrosiectau eraill.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.