A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch-beiriannydd - Priffyrdd a Theithio Llesol / Swyddle
Swydd:
Uwch-beiriannydd - Priffyrdd a Theithio Llesol
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
£45,000
Cyfeirnod:
REC01440
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
07-11-2025

Disgrifiad Swydd

Lleoliad: Pontypridd or Wrexham

 

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Yr Uwch Beiriannydd - Priffyrdd a Theithio Llesol fydd yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth o brosiectau seilwaith teithio llesol rhanbarthol, gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol cenedlaethol, i wella’r gwaith o gyflawni prosiectau teithio llesol ar draws lleoliadau trefol a gwledig.

  • Datblygu cysyniadau, dyluniadau manwl, lluniadau CAD a gwybodaeth adeiladu ar gyfer prosiectau seilwaith teithio llesol drwy ddilyn y safonau dylunio, y ddeddfwriaeth a’r canllawiau priodol, fel ATAG, DMRB, WelTAG, MCHW, Symudedd Cynhwysol, MfS ac MfS2 i greu prosiectau teithio llesol sy’n bodloni gofynion y Cleient. 
  • Cefnogi a hyrwyddo dyluniadau prosiectau teithio llesol sy’n cael eu harwain gan yr Awdurdod Priffyrdd, y Cyd-bwyllgor Corfforedig a TrC sy’n cydbwyso anghenion a chyfyngiadau lleol â dulliau technegol a chydymffurfiaeth, drwy ddarparu gwasanaethau adolygu dyluniadau a chysylltu â swyddogion cleientiaid ynghylch cynlluniau i ddarparu swyddogaeth rhanddeiliaid o ansawdd uchel, gan sicrhau dyluniad stryd effeithiol a chanlyniadau teithio llesol. 
  • Datblygu a chynnal perthnasoedd sensitif â rhanddeiliaid, drwy arwain prosesau ymgysylltu creadigol, cydweithredol a thosturiol i reoli risgiau i enw da TrC, a Llywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny, yn ogystal â rheoli risgiau sy’n benodol i brosiectau, partneriaid a lleoedd. 
  • Cyfrannu at y broses o ddatblygu Canllawiau’r Deddf Teithio Llesol drwy gasglu, rhannu a gweithredu arferion gorau o brosiectau ar draws y tîm TrC, y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) a phartneriaid awdurdodau lleol i wella ansawdd, cost ac effeithiolrwydd y seilwaith teithio llesol yng Nghymru. 

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth gysylltiedig neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad o arferion dylunio priffyrdd
  • Profiad amlwg o weithio mewn amgylchedd tîm dylunio technegol.
  • Profiad amlwg o ddefnyddio meddalwedd dylunio fel AutoCAD, yn ddelfrydol Civils 3D.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o reoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (CDM).

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**