Swydd:
Uwch Swyddog Cyfathrebu
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£39,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
202559S4C
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
23-05-2025

Mae'r rôl gyffrous yma yn greiddiol i dîm Cyfathrebu S4C. Byddi'n cyd-weithio yn agos gyda'r Pennaeth Cyfathrebu i sicrhau fod gwaith y Tîm Cyfathrebu yn creu digon o sŵn am ein cynnwys, ac am waith ehangach S4C gan ymgysylltu gyda'n cynulleidfaoedd a chyrraedd amcanion strategol y cwmni.

Byddi yn arwain ar system flaengynllunio gan gydlynu ac amserlennu gwaith aelodau'r Tîm Cyfathrebu. Bydd hyn yn golygu sicrhau fod ymgyrchoedd yn cael eu gwerthuso'n effeithiol er mwyn sicrhau gwellhad parhaus.

Byddi di'n chwarae rhan flaenllaw mewn hyrwyddo cynnwys a gwasanaethau cyhoeddusrwydd i'r cyfryngau a rhanddeiliaid gan gynnwys arwain ar ymgyrchoedd penodol ac yn cefnogi'r Pennaeth a'r Cyfarwyddwr ar ein strategaeth cyfathrebu gorfforaethol i sicrhau bod ein negeseuon yn cyrraedd ein rhanddeiliaid a'n cynulleidfaoedd. Byddi'n cyflawni hyn drwy drefnu cyhoeddiadau rhagweithiol, datganiadau adweithiol a helpu drafftio negeseuon ac areithiau gorffenedig i benaethiaid S4C i gynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys rhanddeiliaid.

Byddi'n arwain ar gynlluniau cyfathrebu mewnol i rannu'r wybodaeth ddiweddara ac ymgysylltu gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad gan chwarae rhan flaenllaw yn rheoli cynnwys ar wefan S4C ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol corfforaethol S4C.

 

 

Manylion Eraill

 

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: £39,000 y flwyddyn

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

 

 

Ceisiadau

 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Gwener 23 Mai 2025 trwy lenwi'r ffurflen gais yma.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb