Swydd:
Swyddog Gweithredol Hyfforddiant a Dysgu Proffesiynol
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£39,347 – £45,585
Cyfeirnod:
51188
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dyddiad Cau:
29-11-2023

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sydd â ffocws ar gyflogaeth, sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein rhestru yn y 13eg safle am ansawdd addysgu yn The Times and The Sunday Times Good University Guide 2022 ac yn 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y tabl cynghrair hwn eleni.

Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Gweithredol Hyfforddiant a Dusgy Proffesiynol i ymuno â'n prifysgol ar sail llawn amser parhaol yn gweithio 37 awr yr wythnos.

 

- Y RÔL –

Mae’r swydd hon wedi’i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu ac Addysgu sy’n gyfrifol am:

  • Lunio llyfrau cwrs cenedlaethol, gan gynnwys adnoddau i diwtoriaid ac adnoddau digidol i ddysgwyr;
  • Llunio cyrsiau cyfunol, sy’n cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda dosbarthiadau dan oruchwyliaeth tiwtor;
  • Llunio adnoddau ar gyfer pobl ifainc, gan gynnwys adnoddau digidol byrion
  • Sicrhau ansawdd darpariaethau Dysgu Cymraeg, sy’n cynnwys prosesau arsylwi tiwtoriaid, cywain barn, a monitro targedau;
  • Hyfforddiant i diwtoriaid, o dan faner ‘Academi’, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol flynyddol a chyfrannu at brosiect newydd y Ganolfan, Tiwtoriaid Yfory. Mae ‘Academi’ yn adran gaeedig o fewn Safle Rhyngweithiol y Ganolfan sy’n cynnwys adnoddau i diwtoriaid, modiwlau hunan-astudio a chalendr o ddigwyddiadau hyfforddiant;

 

Cynlluniau Cefnogi Dysgwyr, sy’n cynnwys gweithredu cynllun Siarad, cynnal digwyddiadau cenedlaethol a gweithio gydag ystod o bartneriaid.

 

- AMDANOCH CHI -

Er mwyn cael eich ystyried yn Swyddog Gweithredol Hyfforddiant a Dysgu Proffesiynol, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)
  • Profiad o ddysgu Cymraeg i Oedolion ar bob lefel.
  • Profiad o hyfforddi a chreu cyflwyniadau o safon uchel i’w cyflwyno gerbron cynulleidfaoedd rhithiol a wyneb-yn-wyneb. Bydd y cynulleidfaoedd hyn yn fewnol ac yn allanol.
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth da iawn.
  • Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.
  • Profiad o orfod cyflwyno gwaith o safon uchel gan gadw at derfynau amser tynn.
  • Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ar bob lefel.
  • Bod yn barod i deithio a gweithio oriau hyblyg i gyflawni gofynion y swydd
  • Meddu ar drwydded yrru gyfredol a dilys
  • Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig.

 

Byddai’r canlynol yn fuddiol i’ch rôl:

  • Profiad o weithio ar brosiectau cymhleth a chynhwysfawr
  • Profiad o ddefnyddio pecynnau megis Articulate Rise a Premier Pro i greu andoddau.

 

 

- BUDDION -

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 o ddiwrnodau pan fydd y Brifysgol ar gau

Mae gan ein gweithwyr fynediad i becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, cynigwn gyflog cystadleuol.

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu.

- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl.

- Cyfleoedd gyrfaol a datblygu, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau.

- Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cymorth cwnsela.

- Gostyngiadau i staff ar gasgliad o gynhyrchion a gwasanaethau.

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.

 

Felly, os hoffech chwarae rhan allweddol yn ein prifysgol fel  Swyddog Gweithredol Hyfforddiant a Dusgy Proffesiynol, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir.

Sylwch, nid yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais yn seiliedig ar eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig ac, yn benodol, eich Datganiad Ategol.