Ysgoloriaeth PhD – Cemeg Feddyginiaethol
Datblygu triniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor;
Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau
Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd
Ymchwil
Hysbyseb
Ysgoloriaeth PhD – Cemeg Feddyginiaethol; Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau
Cyfle unigryw i unigolyn o gefndir addysg Cymraeg i gwblhau doethuriaeth ym maes darganfod meddyginiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.
Mae’r ysgoloriaeth hon, sydd wedi’i hariannu’n llawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn canolbwyntio ar ymchwil am ddulliau arloesol o drin clefyd niwronau motor, hefyd a elwir yn Sglerosis Amyotroffig Ystlysol (ALS). Bydd yr ymchwil yn cymryd lle yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, sydd â chysylltiadau gydag Ysgol y Biowyddorau, Ysgol Fferylliaeth a’r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Prif nod y Sefydliad yw cyflenwi darganfyddiadau meddyginiaethol cyfoes i wella triniaethau a bywydau pobl mewn angen.
Bydd yr ymchwil yn cwmpasi sawl agwedd gwahanol o’r broses darganfod cyffuriau. Bydd cemeg yn rhan o’r ymchwil i ddylunio a datblygu moleciwlau bach i brofi’r ddamcaniaeth a all cynyddu lefelau RNA ein targed newydd ddarparu ffordd newydd arloesol i fynd i’r afael ag ALS.
Yn ogystal â hyn, bydd cyfle i ddefnyddio cemeg gyfrifiadurol o’r radd flaenaf i lunio’r broses ag i ddefnyddio arbrofion biolegol i asesu’r moleciwlau a grëir. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig sydd â diddordeb cryf mewn cemeg feddyginiaethol, yn ddelfrydol o gefndir astudio’r pynciau cemeg organig neu fiocemeg.
Mae’r ddoethuriaeth yn un llawn amser dros dair blynedd. Mi fydd rhaid ysgrifennu’r traethawd ymchwil terfynol yn y Gymraeg a bydd cymorth priodol o fewn y Brifysgol i gyflawni hyn ac i wella’r sgiliau hanfodol yn y meysydd gwyddonol a’r Gymraeg yn ôl yr angen.
Dyddiad cau: 1 Gorffenaf 2021
Dylid anfon ymholiadau anffurfiol i Uwch Athro Simon Ward: WardS10@caerdydd.ac.uk