Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol,
rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn
ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Y Swydd
Mae’r Urdd yn edrych am unigolyn creadigol a brwdfrydig fydd yn arwain gweithgareddau marchnata’r
mudiad ac yn chwarae rhan adeiladol i godi proffil gweithgareddau’r Urdd.
Rydym yn edrych am berson sydd a phrofiad o weithio ym maes marchnata a chyfathrebu gyda’r sgiliau a phrofiad i feddwl yn greadigol ac yn gynnil am syniadau i hyrwyddo yr Urdd a’u wasanaethau i gynulleidfaoedd newydd.
Bydd y person llwyddiannus yn rhan o dîm yr Adran Gyfathrebu gan gydweithio gyda’r Cyfarwyddwr,
Rheolwr Cyfathrebu, y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a’r dylunydd ar ymgyrchoedd a
gweithgareddau marchnata aml gyfrwng gan sicrhau cyrhaeddiad cynyddol i brif negeseuon yr Urdd.
Am sgwrs bellach cysylltwch â Mali Thomas - Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Rhyngwladol yr Urdd ar 07834 709082 / mali@urdd.org
Mewngofnodwch am wybodaeth bellach/ i ymgeisio