Swyddogion heddlu sydd wedi gwasanaethu o'r blaen (Swyddogion Cymorth Ymchwilio)
Mae Heddlu Gwent yn chwilio am geisiadau gan swyddogion heddlu sydd wedi gwasanaethu o'r blaen a staff heddlu gyda phrofiad o ymchwilio. Nid yw'r swydd yn gyfyngedig i gyn-dditectifs. Gall unrhyw gyn-swyddog gyda meddwl ymchwiliol ymgeisio.
Mae contractau tymor penodol chwech i 12 mis ar gael ar gyfer swyddogion cymorth ymchwilio i gynorthwyo'r adran ymchwilio i droseddau.
Byddwch yn darparu cymorth mewn gwahanol ymchwiliadau a bydd gofyn i chi weithio yn rhan o dîm ymchwiliad yn casglu, adolygu a chyflwyno tystiolaeth yn ôl y gofyn, ar gyfer adrannau ac ymchwiliadau penodol.
Mae gennym ni nifer o swyddi gwag dros dro ar gael ledled ardal yr heddlu a gallwn gynnig oriau amser llawn a rhan amser. Sylwer: byddwch yn ymgeisio i ymuno â charfan o ymgeiswyr ar gyfer swyddi gwag fel y bo'r galw amdanynt yn y llu.
Bydd gofyn i chi gwblhau eich ceisiadau llawn a darparu 500 gair am eich profiad ymchwiliol a manylion unrhyw hyfforddiant achrededig.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â centralrecruitment@gwent.police.uk
Sylwer: Ni fyddwn yn penodi nes y byddwn wedi derbyn cadarnhad o fetio llawn, geirdaon, a phrofion iechyd.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Y buddion rydym yn eu cynnig
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
Er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, fel ein bod yn cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae gan Heddlu Gwent raglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Brian, Clare a Rima: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i’n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth plismona sy’n siarad Cymraeg ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg.