Swyddog Addasrwydd i Ymarfer X2 (FTC)
Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid)
Y cwmni
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am ddau Swyddog Addasrwydd i Ymarfer i ymuno â’n tîm ymroddedig ar gontractau llawn amser, cyfnod penodol o fis Awst 2022 i fis Mawrth 2023.
Y Manteision
- Cyflog o £29,372 - £32,998 y flwyddyn (pro rata)
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â Gwyliau Banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth) (pro rata)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Swyddog Addasrwydd i Ymarfer, byddwch yn asesu datgeliadau perthnasol a wneir ar geisiadau i gofrestru ar ein cofrestr gofal cymdeithasol yn drylwyr.
Fel rhan o'ch rôl, byddwch yn ymchwilio i achosion addasrwydd i ymarfer lefel risg ganolig a wneir yn erbyn gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig.
Byddwch yn rhoi arweiniad i ymgeiswyr, unigolion cofrestredig, cyflogwyr ac achwynwyr am ein prosesau ac yn cynorthwyo Uwch Swyddogion i gael tystiolaeth achos gan bartïon perthnasol.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Paratoi adroddiadau cynhwysfawr
- Mynychu gwrandawiadau Tribiwnlys Safonau Gofal
- Paratoi a chyflwyno ystod o asesiadau risg
Amdanat ti
I ymuno â ni fel Swyddog Addasrwydd i Ymarfer, bydd angen:
- Profiad o ymdrin â gwybodaeth a sefyllfaoedd hynod sensitif a chyfrinachol
- Profiad o ysgrifennu adroddiadau ffurfiol
- Y gallu i gyfathrebu dros y ffôn ac yn bersonol â phobl a allai fynegi dicter, rhwystredigaeth, gofid a siom
- Y gallu i asesu symiau mawr o wybodaeth gymhleth, sensitif, gan sicrhau sylw i fanylion a chywirdeb
- Sgiliau trefnu datblygedig iawn
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm prysur
- Y gallu i ddefnyddio system rheoli achosion yn seiliedig ar TG
Byddai profiad o gynnal asesiadau risg o fudd i'ch cais, yn ogystal â phrofiad o ymdrin â chwynion gan aelodau'r cyhoedd. Byddai gwybodaeth am y sector gofal cymdeithasol hefyd yn ddymunol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Gorffennaf 2022.
Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Swyddog Atgyfeirio ac Asesu, Swyddog Cwynion, Gweithiwr Achos Addasrwydd i Ymarfer, Swyddog Ymchwilio, neu Swyddog Cofrestru a Chyngor.
Felly, os ydych yn chwilio am gyfle amrywiol fel Swyddog Addasrwydd i Ymarfer, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.