Dyma gyfle unigryw i unigolion sydd â'r gallu i weithredu'r gwaith arlwyo cyhoeddus ymuno gyda thîm ein client mewn lleoliad arbennig ym Mae Caerdydd.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol dystysgrif hylendid bwyd sylfaenol, gwybodaeth am iechyd a diogelwch a hyfforddiant barista. Yn ogystal, mae'n rhaid bod gennych brofiad mewn gwasanaeth bwyd, cynhyrchu bwyd (bwyd caffi, brechdanau, paninis, tatws pob - saladau), trin arian parod a gwybodaeth am weithdrefnau tiliau.
Mae siop anrhegion fechan hefyd yn rhan o’r adeilad, felly byddai rywfaint o wybodaeth am fanwerthu nwyddau hefyd yn ddelfrydol, gan y bydd hyn yn rhan bwysig o'r rôl.
Cysylltwch gyda post@swyddle.cymru am fanylion pellach