Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Ymgyrchoedd gweithgar a brwdfrydig i weithio gyda’n grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau, celloedd ac aelodau ar draws y wlad i gefnogi ein hymgyrchoedd ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chyfrannu at lwyddiant ymgyrchoedd y Gymdeithas ar draws sawl maes o bwys mewn cyfnod tyngedfennol i’r iaith a’n cymunedau.
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu, ysgogi a chefnogi gweithgarwch ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith ar draws Cymru, gan weithio i dynnu gwirfoddolwyr ac aelodau i mewn i’n gwaith. Byddwch yn cydweithio â'n grwpiau ymgyrchu i ddatblygu a hyrwyddo ein hymgyrchoedd cenedlaethol a lleol mewn meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys addysg, cymunedau, hawliau iaith a’r byd darlledu a digidol. Byddwch yn cydweithio â'n rhanbarthau a chelloedd ar draws Cymru i ysgogi gweithgarwch llawr gwlad ac ennill ymgyrchoedd ar faterion o flaenoriaeth leol.
Byddwch yn cydweithio â swyddogion gwirfoddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â’r staff eraill i sicrhau dilyniant a gweithrediad effeithiol ein hymgyrchoedd a’n gweithgareddau ehangach.