Ydych chi'n barod am yrfa werth chweil? Er mwyn i ni allu darparu plismona eithriadol i bawb mae angen gweithlu amrywiol arnom ni gydag amrywiaeth o sgiliau a galluoedd i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gymunedau Gwent.
Cefnogi'r Uwch Gyfrifwyr a'r adran ehangach i ddarparu arweiniad ariannol a chefnogaeth rheoli busnes er mwyn
cyflawni blaenoriaethau Swyddfa'r Comisiynydd yn effeithlon ac effeithiol.
Os ydych chi'n credu bod gennych chi'r sgiliau a'r brwdfrydedd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y disgrifiad swydd. Os ydych chi'n credu mai hon yw'r swydd i chi, llenwch ffurflen gais, gan ddangos tystiolaeth yn y meysydd gofynnol (fel arfer ar dudalen olaf y disgrifiad swydd a gellir gweld yr uchafswm geiriau ar gyfer pob maes yn y ddogfen hon hefyd).
Os hoffech chi unrhyw wybodaeth bellach am y swydd, cysylltwch â Harping Boey (harping.boey@gwent.police.uk).
Sylwch fod teitlau’r meysydd y mae gofyn i chi ddangos tystiolaeth yn eu herbyn (yn unol â’r fanyleb person) wedi’u llenwi ar y ffurflen gais yn barod. Cyfeiriwch at y fanyleb person i gael gwybodaeth bellach am y dystiolaeth sy’n ofynnol o dan bob teitl.
Cyfeiriwch hefyd at y canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm isod sy'n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau eich cais.
YMGEISWYR MEWNOL: Sylwer na allwn symud eich cais i’r cam rhestr fer nes y byddwn wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth Rheolwr Llinell. Cyflwynwch y ffurflen hon erbyn y dyddiad cau. Diolch.
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
Amrywiaeth a'r Gymraeg
Er mwyn i ni allu darparu plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth eang o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, er mwyn i ni allu cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae Heddlu Gwent yn darparu rhaglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau a dangynrychiolir. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at Brian a Clare: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i'n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent.
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth heddlu sy'n siarad Cymraeg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr gyda sgiliau Cymraeg.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, er mwyn eu sgiliau a'u talent. Gallwch ddangos ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y swydd, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais.