Allwch chi fod yn Asiant er Newid?
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am drawsnewid sut rydym ni’n ymgysylltu â ac yn datblygu cyfleoedd i bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Amrywiol a phobl Fyddar ac anabl i fwynhau, cymryd rhan a gweithio yn y Celfyddydau.
Y Cyngor yw'r corff swyddogol sy'n datblygu ac ariannu celfyddydau Cymru. Rydym ni’n cynnig grantiau gyda’r arian a gawn gan Lywodraeth Cymru, y Loteri Genedlaethol a ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill.
Ein “gweledigaeth” yw Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau wrth wraidd ein bywyd a’n lles mewn gwlad sy’n lle cyffrous a bywiog i bobl fyw a gweithio ynddi. Rydym ni am gydnabod hawl diwylliannol a chreadigol pob unigolyn a chymuned ledled Cymru.
Mae’r pandemig wedi newid ein byd. Felly rhaid i’r celfyddydau – a’r Cyngor – newid. Ers amser maith gwrthodir cyfleoedd i bobl ac artistiaid Duon, Asiaidd, ethnig amrywiol, Byddar ac anabl greu celfyddyd neu weithio yn y maes ar eu telerau eu hunain. Mae ystadegau’n profi mai prin yw amrywiaeth ar draws sector y celfyddydau.
Rydym ni am drawsnewid a gwella amrywiaeth ein bwrdd llywodraethu (y Cyngor) a'n staff. Rydym ni hefyd am greu newid yn y sefydliadau rydym ni’n eu hariannu.
Os gallwch chi ein helpu i greu’r newid, hoffem ni glywed gennych.