Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n
gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff,
bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen[1]blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw
o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas
Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau
Cymru.
Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o
brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw meithrin
gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu, i
ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
https://www.urdd.cymru/cy/prentisiaethau/
Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson eiddgar, trefnus a brwdfrydig i ymuno ag Adran
Prentisiaethau'r Urdd fel Swyddog Gweinyddol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Lisa Waters (Cydlynydd Hwb Sgiliau Hanfodol)
lisawaters@urdd.org neu Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau)
gary@urdd.org
Mewngofnodwch i ymgeisio