Rydym yn chwilio am Swyddog Marchnata i ymuno â’r adran Marchnata a Chyfathrebu.
Drwy weithgareddau marchnata arloesol byddwch chi’n gweithio fel rhan o dîm i wireddu ein Strategaeth Farchnata a Chyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o S4C a’r oll mae’n ei gynnig, gan ddenu cynulleidfaoedd Cymru - p'un a ydyn nhw'n gwylio cynnwys ar deledu llinol neu ar blatfformau digidol.
Byddwch chi’n gyfrifol am rannu a hyrwyddo cynnwys a gwasanaethau S4C gan feithrin perthynas barhaus â chynulleidfaoedd allweddol, cwmnïau cynhyrchu a rhanddeiliaid amrywiol.
Drwy amryw weithgareddau marchnata byddwch yn dangos sut mae S4C yn ceisio sicrhau fod y Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd pawb yng Nghymru drwy ddarparu cynnwys beiddgar ac arloesol sy’n dathlu’n diwylliant cyfoes.
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon, denu gwylwyr a chynnal trafodaeth rhwng S4C a’i rhan-ddeiliaid.
Yn ogystal â meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol mae profiad o ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd hyrwyddo yn hanfodol.
Rydym yn cynnig 1 swydd barhaol ac 1 cytundeb penodol am 6 mis.
Manylion eraill
Cyflog: O gwmpas £28,000 i £33,000 y flwyddyn (yn unol â phrofiad)
Cytundeb: 1 x cytundeb parhaol
1 x cytundeb penodol am 6 mis
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau pro rata gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Gwener 1 Rhagfyr 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2023
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.