Paratoi ar gyfer y Safonau

Sefydlwyd Comisiynydd yr Iaith annibynnol i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg a gall osod safonau cydymffurfio ar sefydliadau penodol er mwyn sicrhau fod gwasnaethau Cymraeg gystal ac mor hwylus i’w defnyddio a’r Saesneg.

Serch hynny, mae’r Comisiynydd wedi derbyn y gall hwn fod yn heriol i rai busnesau bach ag elusennau ond gydag ychydig o ddychymyg a chynllunio creadigol, mae’n bosib gweithio tuag at y nod hwn ac mae hefyd yn cynnig cyngor a chanllawiau i bob sefydliad p’un a oes ganddo ofyniad statudol i ddefnyddio’r Gymraeg ai peidio.  Yn hyn o beth, mae Swyddle wedi dadlau’n gyson nad oes raid i’r her o ddatblygu hunaniaeth neu swyddogaeth ddwyieithog fod yn ddrud neu’n aflonyddol i “fusnes arferol”.

Help am Ddim

Mae nifer o wasanethau a chanllawiau am ddim ar gael er mwyn cefnogi’r amcan hwn.  Mae’r Comisiynydd, er enghraifft, wedi cynhyrchu amryw o waith ymchwil a chanllawiau gyda’r nod o hybu dwyieithrwydd, gan gynnwys o fewn y sector manwerthu, bwyd a diod a chanllawiau ar ystyried y Gymraeg wrth recriwtio, marchnata dwyieithog ac yn fwy diweddar, canllaw ar gyfryngau cymdeithasol dwyieithog.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lawnsio gwasanaeth am ddim i fusnesau bach yn cynnig cefnogaeth ar ddatblygu brandio a chyfathrebu dwyieithog.

Gweithle Dwyieithog

Un o’r dulliau mwyaf effeithiol o gychwyn, cynnal a datblygu swyddogaeth ddwyieithog mewn sefydliad yw i recriwtio staff dwyieithog.  Nid yw’n angenrheidiol cael tîm Cymraeg ymroddedig sy’n ymdrîn yn unig â chleientiaid sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg. Drwy recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi sy’n wynebu’r cwsmer a/neu swyddi allweddol eraill, rydych yn cynyddu eich gwasanaeth i’r cwsmer yn effeithiol iawn.  Gall un person dwyieithog berfformio dwy swyddogaeth, gan y gallant weithredu’r un swydd yn y ddwy iaith.

Mae’r Comisiynydd ei hun yn credu y byddai cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn gwella lefelau sgil y gweithle; ac ym maes cyfryngau cymdeithasol, mae wedi dadlau ei bod hi’n “gyfle hefyd i edrych ar recriwtio aelod o staff neu wirfoddolwyr sydd â sgiliau Cymraeg i sicrhau bod y gallu i greu cynnwys dwyieithog yn bodoli yn fewnol.”

Mantais gystadleuol

Gall darparu gwasanaethau Cymraeg fod yn Bwynt Gwerthu Unigryw i chi.  Mae’r cyfle gyda chi i ddatbygu eich hunaniaeth brand dwyieithog a chyrraedd cwsmeriaid newydd. Mae ymchwil cenedlaethol wedi dangos mai dim ond 12% o fusnesau oedd yn cynnig gwasanaeth cyflawn i’r cwsmer yn Gymraeg.

Ennill a chadw contractau’r Sector Gyhoeddus

Mae oes newydd Safonau Iaith Gymraeg statudol a chydymffurfiaeth â’r safonau hynny, yn golygu y bydd gan gontractwyr sy’n gallu dangos gallu dwyieithog fantais wrth dendro am gontractau gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n haws o lawer i recriwtio siaradwyr Cymraeg i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sydd yn cryfhau eich sefyllfa i gadw tendrau pan fyddant yn adnewyddu. Gallwn hefyd ddod yn rhan o’ch tîm tendro.

Gwasanaethau i’r cwsmer

Mae darparu gwasanaethau dwyieithog gwasanaeth i’r cwsmer; gan gynnig y gwasanaeth yn newis iaith y cwsmer. Mae’n dangos gwell ymroddiad i wasanaeth i’r cwsmer.

Cylch Rhinweddol

Mae cael staff dwyieithog y neu lle yn gosod cylch rhinweddol yn ei le sy’n cynnwys denu prynwyr yn ôl, ysgogi diwylliant mewnol o ddwyieithrwydd gan roi hyder i staff erall i ddefnyddio neu ddatblygu eu Cymraeg gan hefyd gynyddu hyder y cwsmer a hunaniaeth brand.

Recriwtio Arbenigol

Mae gan Swyddle wasanaeth recriwtio ymroddedig, pwrpasol ac arbenigol a al ddarparu siaradwyr Cymraeg ar gyfer Swyddi parhaol, contract a dros dro ar draws Cymru.  Cysylltwch â ni ar 029 2030 2182 neu post@swyddle.cymru er mwyn trafod sut gallwn ateb eich anghenion.